Thumbnail
Map Cyfleoedd Coetir - Parciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig
Resource ID
f53b4da6-0523-4cd7-9fa2-d31a6c13a1b6
Teitl
Map Cyfleoedd Coetir - Parciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig
Dyddiad
Chwe. 19, 2025, canol nos, Publication Date
Crynodeb
Mae parciau a gerddi hanesyddol yn rhan o hunaniaeth genedlaethol Cymru. Maent yn cyfoethogi gwead a phatrwm ein tirweddau ac yn ffurfio cofnod gwerthfawr o newid cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd. Mae llawer ohonynt yn cynnig gwerth cadwraeth eithriadol ar gyfer bywyd gwyllt yn ogystal â chyfleoedd hamdden i’r cyhoedd. Fel ffynhonnell bleser a dysgu, a rhwydwaith gwerthfawr o fannau gwyrdd, mae gan ein parciau a’n gerddi hanesyddol ran bwysig i’w chwarae er mwyn creu Cymru sy’n fwy iach a gwyrdd. Mae parciau a gerddi hanesyddol yn adnodd bregus a chyfyngedig ac mae’n hawdd eu difrodi neu eu colli. Mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth o’u harwyddocâd ac annog y rhai sy’n gyfrifol am eu rheoli i’w trin fel lleoedd gwerthfawr ac unigryw. Diolch i’w gofal a’u hymrwymiad i ddiogelu’r asedau gwerthfawr hyn, byddwn yn gallu mwynhau’r parciau hanesyddol a’r gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Mae cofrestru’n nodi safleoedd sydd o ddiddordeb hanesyddol arbennig i Gymru. Lluniwyd y Gofrestr er mwyn cynorthwyo cadwraeth wybodus parciau a gerddi hanesyddol gan berchenogion, awdurdodau cynllunio lleol, datblygwyr, cyrff statudol a phawb sy’n ymwneud â hwy. Mae Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ddyletswydd statudol i Weinidogion Cymru, drwy Cadw, lunio a chynnal cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru. Mae safleoedd ar y Gofrestr statudol yn parhau i fod yn ystyriaeth berthnasol yn y broses o reoli datblygiad. Mae'r gofrestr yn statudol o 2021 ymlaen a gellir ychwanegu (neu ddileu) safleoedd ar unrhyw adeg. Ar hyn o bryd mae bron i 400 o safleoedd ar y Gofrestr. Y nod yw atal difrod i nodweddion arwyddocaol y safleoedd, megis y dyluniad hanesyddol, adeiladwaith, nodweddion adeiledig ac elfennau wedi'u plannu. Yn aml iawn, byddai plannu coed yn fuddiol ac yn gwella cymeriad parcdir. Fodd bynnag, mae'n bwysig rhoi ystyriaeth briodol i arwyddocâd y safle, ei gymeriad hanesyddol, ei ddyluniad a'i olygfeydd ac ati i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer creu coetir ac i lywio cynlluniau plannu coetir. Ceir manylion cyswllt yn GN002.
Rhifyn
--
Responsible
Alex.Owen.Harris
Pwynt cyswllt
Harris
alex.harris@gov.wales
Pwrpas
Mae’r set ddata hon wedi’i chreu ar gyfer y Map Cyfleoedd Coetir (WOM) yn unig, ac efallai nad yw’n adlewyrchu’r set ddata fwyaf cyfredol.
Pa mor aml maen nhw'n cael eu diweddaru
None
Math
vector
Cyfyngiadau
None
License
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus
Iaith
en
Ei hyd o ran amser
Start
--
End
--
Gwybodaeth ategol
Ansawdd y data
--
Maint
  • x0: 174963.828125
  • x1: 353982.8125
  • y0: 166135.671875
  • y1: 393499.59375
Spatial Reference System Identifier
EPSG:27700
Geiriau allweddol
no keywords
Categori
None
Rhanbarthau
Global